Cyngor Cymuned
Abergwyngregyn
Mae gan Cyngor Cymuned Abergwyngregyn saith cynghorydd sy'n cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn yn Ystafell Cymunedol Yr Hen Felin.
Gall aelodau'r cyhoedd fynychu'r cyfarfodydd, ond ni allant siarad ar unrhyw fater heb wahoddiad y cadeirydd. Dylid unrhyw un sy'n awyddus i godi mater gysylltu gyda'r clerc cyn y cyfarfodydd.
Mae dyddiadau'r cyfarfodydd y cael eu postio ar hysbysfwrdd y pentref 14 diwrnod o flaen llaw.
Mae'r cynghorydd yn cael eu hethol am bedair blynedd. Os oes unrhyw un gadael rhwng etholiadau bydd y Cynghorwyr yn cael cyd-ddewis rhywun yn eu lle.
Mae gan y cyngor bwerau cyfyngedig ac mae'n derbyn cyllideb fach gan Gyngor Gwynedd o drethi - mae hyn un mynd tuag at gostau awdit mewnol ac allanol, offer swyddfa, cyflog y clerc a gwariant wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd, yn cynnwys rhoddion i elusennau lleol.
Mae'r cyngor yn gyfrifol am faterion lleol, megis llwybrau troed cyhoeddus a ffyrdd, baw ci, biniau sbwriel, glanhau'r pentref, biniau halen meinciau eistedd cyhoeddus, arhosfeydd bws a golau stryd. Mae'r cyngor hefyd yn gyfrifol am hysbysu Cyngor Gwynedd pan fo problemau'n codi. Mae ceisiadau cynllunio hefyd yn cael eu hystyried a'u trafod.
Mae modd cynnwys heddlu lleol, swyddogion Cyngor Gwynedd a chynghorwyr lleol mewn cyfarfodydd,
Dyma rhestr cyfarfodydd y cyngor am y cyfnod nesaf:
Mawrth 2025 | ||
20 Dydd Iau 19:30 |
Cyngor Cymuned Cyfarfod y Cyngor Cyfarfod cyhoeddus - agored i bawb Yr Hen Felin |